BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gweithio gyda COVID hir: canllawiau i roi cymorth

Cyngor i weithwyr Adnoddau Dynol proffesiynol, rheolwyr llinell a chydweithwyr i gefnogi gweithwyr gyda COVID hir.

Roedd amcangyfrif o 1.3 miliwn o bobl yn y DU  yn dioddef COVID hir ym mis Ionawr 2022. Mae cefnogi gweithwyr sydd â COVID hir i ddychwelyd i'r gwaith ac aros yn y gwaith yn bwysig ar gyfer eu hadferiad ac i'ch sefydliad.

Gan dynnu ar ymchwil CIPD, sy'n cynnwys gweithwyr sy'n dychwelyd i'r gwaith, rheolwyr llinell, iechyd galwedigaethol, cynghorwyr cyflogaeth, a gweithwyr adsefydlu proffesiynol, gweithwyr Adnoddau Dynol proffesiynol a'r grŵp Cymorth Covid Hir, mae'r canllawiau hyn yn cynnig cyngor ac argymhellion ymarferol i roi cymorth i weithwyr sydd â COVID hir. 

Lawrlwythwch y canllawiau i ddarganfod mwy a chyrchu'r rhestrau gwirio i gefnogi gweithwyr gyda COVID hir trwy glicio ar y ddolen ganlynol https://www.cipd.co.uk/knowledge/fundamentals/relations/absence/long-covid-guides


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.