Gyda mwy a mwy o ymwelwyr yn dod i Gymru, mae angen mwy o staff ar y sector twristiaeth a lletygarwch. Mae ystod enfawr o swyddi ar gael, o weithio mewn bwytai a bariau ar y traeth, i westai pum seren a chyrchfannau ymwelwyr.
Os ydych chi’n meddwl bod swydd ym maes twristiaeth a lletygarwch yn addas i chi, boed hynny ddim ond am yr haf neu’n rhan o’ch cynlluniau gyrfa hirdymor, mae rhai pethau y gallwch eu gwneud:
- Edrychwch am gyfleoedd yn eich ardal leol – mae llawer o fusnesau’n hysbysebu ar y cyfryngau cymdeithasol neu hyd yn oed yn rhoi arwyddion yn eu ffenestri
- Galwch heibio i westai, bwytai a bariau cyfagos i gyflwyno’ch hunan a gadael CV
- Cysylltwch â chynghorydd Cymru'n Gweithio i gael sgwrs am eich dyfodol
Am ragor o wybodaeth, ewch i Cymru’n Gweithio.