BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gweithio’n ddiogel yn ystod coronafeirws: Gweminar am ddim ar Seiberddiogelwch

Bydd gweminar y National Cyber Security Centre (NCSC) yn darparu trosolwg o’r risgiau seiberddiogelwch y mae busnesau’n eu hwynebu yn ystod ac ar ôl COVID-19, yn ogystal ag edrych ar yr amrywiaeth o adnoddau sydd ar gael am ddim i fusnesau gan yr NCSC.

Cynlluniwyd y weminar ar gyfer busnesau bach a chanolig sydd wedi’u heffeithio gan COVID-19 ac sydd â diddordeb mewn datblygu eu busnes ar-lein.

Bydd y weminar yn cynnwys deunydd ar:

  • rôl yr NCSC i gefnogi busnes a diwydiant y DU
  • y bygythiadau seiber mwyaf cyffredin y mae busnesau’n eu hwynebu a sut i’w lliniaru
  • bod yn ddioddefwr ymosodiad seiber
  • y cynhyrchion a’r canllawiau sydd ar gael gan yr NCSC

Cynhelir y weminar ddydd Mercher 22 Gorffennaf rhwng 11am a 11:30am.

Am ragor o wybodaeth ac i archebu lle, ewch i wefan Eventbrite.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.