Gall gweithwyr unigol fod mewn mwy o berygl o niwed gan nad oes ganddyn nhw unrhyw un i'w helpu na'u cefnogi os bydd pethau'n mynd o'i le.
Dylai cyflogwyr ddarparu hyfforddiant, goruchwyliaeth, monitro a chymorth i'r rheiny sy'n gweithio ar eu pennau eu hunain.
Mae taflen am ddim i'w lawrlwytho yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, Protecting lone workers: How to manage the risks of working alone, ar gyfer unrhyw un sy'n cyflogi gweithwyr unigol, neu'n cysylltu â nhw fel contractwyr ac ati, gan gynnwys pobl hunangyflogedig.
Cefnogir y daflen gan eu tudalennau gwe lone working, sy'n cynnwys cyngor wedi'i anelu at weithwyr unigol eu hunain, yn ogystal â fideo sy’n nodi’r cyngor allweddol.