Mae dros dri miliwn ohonon ni yng Nghymru. Ni all neb wneud popeth i fynd i’r afael â’r newid hinsawdd, ond gall pawb wneud rhywbeth.
Mae Llywodraeth Cymru wedi galw am ddegawd o weithredu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd gyda’n hymrwymiad mewn cyfraith i gyflawni sero net erbyn 2050.
Nod ein hymgyrch Gweithredu ar Hinsawdd Cymru yw helpu pobl i ddeall pa gamau y gallant eu cymryd i wneud newidiadau cadarnhaol hirdymor.
Mae asedau cyfathrebu ar gael yma i gefnogi’r ymgyrch: Pecyn Digidol Gwasanaethau Cyfathrebu Llywodraeth Cymru Gwyliwch ein fideo Beth Alla I Ei Wneud? ar YouTube.