Newyddion

Gwell canllawiau i weithwyr hunangyflogedig

carpenter

Mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) wedi ailgynllunio ei dudalennau gwe ar gyfer gweithwyr hunangyflogedig i'w gwneud yn haws iddynt ddeall pryd mae cyfraith iechyd a diogelwch yn berthnasol a dod o hyd i'r canllawiau sydd eu hangen arnynt.

Mae'r tudalennau sydd wedi cael eu diweddaru yn esbonio:

  • pryd mae cyfraith iechyd a diogelwch yn berthnasol
  • sut i benderfynu a yw eich gweithgaredd gwaith yn creu risg i eraill
  • gweithgareddau gwaith risg uchel sy'n berthnasol i weithwyr hunangyflogedig
  • sut i gydymffurfio â'r gyfraith os yw'n berthnasol i chi

Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol: Self-employed workers - Overview - HSE


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.