BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwella awyru cyffredinol yn y gweithle

Rhaid i gyflogwyr sicrhau bod digon o awyru mewn rhannau caeedig o'u gweithle.

Gwyliwch fideo yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) sy'n nodi'r cyngor allweddol ar gyfer darparu digon o awyr iach yn y gwaith.

Mae tudalennau gwe  yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch hefyd yn rhoi cyngor ar wella awyru yn y gweithle. Mae'r tudalennau'n cynnwys golwg ar:

  • pam mae awyru mor bwysig
  • sut i wella awyru
  • sut i gadw'r tymheredd yn gyfforddus mewn gweithleoedd wedi'u hawyru

Cymerwch olwg ar rai enghreifftiau penodol o wella awyru
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.