BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwella lled band i 70,000 o gartrefi a busnesau wrth i Lywodraeth y DU addo i ddatrys yr wahanfa band eang yng Nghymru

Fibre optic cable - internet

Bydd degau o filoedd o gartrefi a busnesau yng Nghymru sy’n straffaglu i gyflawni tasgau ar-lein syml oherwydd isadeiledd band eang sydd wedi dyddio yn cael eu huwchraddio. Daw cyflymderau rhyngrwyd llawer cyflymach, wrth i Lywodraeth y DU ddatrys yr wahanfa ddigidol yng Nghymru.

Bydd oddeutu £170 miliwn yn cael ei fuddsoddi gan Lywodraeth y DU i ddarparu gwasanaeth band eang o’r radd flaenaf sy’n ‘gallu trosglwyddo data ar lefel gigabit’ i 70,000 o gartrefi a busnesau anghysbell yng Nghymru, wrth i ffigyrau ddangos bod y wlad wedi cofnodi’r lefelau cysylltedd gigabit isaf ym Mhrydain Fawr.

Bydd yn berthnasol i rai o’r ardaloedd mwyaf anghysbell yn y wlad, o Gymoedd De Cymru i Ben Llŷn – fel bod gan drigolion a busnesau fynediad at y cysylltiad cyflymaf sydd ar gael ar y farchnad. 

Dyma’r contract cyntaf gan Lywodraeth y DU dan Brosiect Gigabit i wella cysylltedd yng Nghymru, gan nad oedd wedi elwa o unrhyw gymorth yn hyn o beth yn flaenorol.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Gwella lled band i 70,000 o gartrefi a busnesau wrth i Lywodraeth y DU addo i ddatrys yr wahanfa band eang yng Nghymru - GOV.UK (www.gov.uk)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.