BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gweminar am ddim: Mynd ati i ailafael ym mhethau a sut i ddefnyddio adnoddau digidol er mwyn i’ch busnes ffynnu

Mae Small Business Britain a BT Skills for Tomorrow yn gweithio mewn partneriaeth i ddarparu sgiliau digidol i fusnesau bach ledled y DU.

Mae’r digwyddiadau diweddar wedi bod yn anodd i gymaint o fusnesau ac mae’r heriau wedi bod yn rhai caled dros ben. I lwyddo yn y byd newydd, dyw canolbwyntio ar “adfer” ddim yn ddigon ac efallai nad “mynd yn ôl i’r drefn arferol” sydd angen i chi ei wneud.

Bydd y gweminar hwn yn rhoi’r adnoddau a’r modelau ymarferol i chi:

  • ddeall pa ymddygiad allai newid yn sgil y pandemig
  • cynllunio sut i addasu i’r newidiadau hyn yn eich busnes
  • ail-fframio’r sefyllfa sydd ohoni er mwyn canfod y cyfleoedd hynny sy’n ein symud ymlaen i’r byd newydd
  • cynnal gweithgarwch marchnata effeithiol ar sail eich tueddiadau refeniw presennol

Cynhelir y gweminar am ddim ddydd Iau 2 Gorffennaf rhwng 11am a 12pm.

Am ragor o fanylion ac i archebu eich lle, cliciwch yma.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.