BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gweminar am ddim – Pam ddylai iechyd meddwl gael lle blaenllaw yn eich busnes

Mae’r ‘bobl’ mewn busnesau bach yn allweddol i’w lwyddiant: mae deall a chefnogi iechyd meddwl ar eich cyfer chi eich hun ac ar gyfer eich gweithwyr yn hollbwysig nid yn unig i hapusrwydd eich gweithwyr a’u cyfraddau cadw, ond hefyd i dwf cyffredinol y busnes.

Gyda’r cynnydd mewn ymwybyddiaeth o broblemau iechyd meddwl, mae’n bwysig dymchwel rhwystrau a thrafod y pwnc yn agored. Yn y sesiwn hon, mae Small Business Britain yn sgwrsio gydag arbenigwyr blaenllaw ym myd busnesau bach a’r maes iechyd meddwl ynghylch sut y gellir codi ymwybyddiaeth, cynyddu dealltwriaeth a pham y dylid rhoi lle blaenllaw i iechyd meddwl.

Cynhelir y gweminar am ddim am 11am ar 14 Medi 2021. Am ragor o wybodaeth ac i gadw’ch lle, ewch i Cofrestru ar gyfer Gweminar - Zoom

 

 



 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.