BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gweminar CThEM: Ymestyn y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws a rhoi gweithwyr ar ffyrlo hyblyg

Ydych chi am gael rhagor o wybodaeth am newidiadau i’r Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws a sut gall ffyrlo hyblyg gefnogi eich busnes?

Ymunwch yng ngweminar byw CThEM am y wybodaeth ddiweddaraf, gan gynnwys:

  • trosolwg o newidiadau i’r cynllun, gan gynnwys sut gallwch ddod â gweithwyr sydd wedi bod ar ffyrlo yn flaenorol yn ôl i’r gwaith i ddiwallu anghenion eich busnes
  • cyflwyniad i ffyrlo hyblyg a sut mae’n gweithio
  • enghraifft o sut i gyfrifo cyflogau gweithwyr sydd ar ffyrlo hyblyg
  • gwybodaeth am ddyddiadau allweddol a chyfnodau hawlio
  • trosolwg o newidiadau i’r cynllun ym misoedd Awst, Medi a Hydref wrth i lefel y grant gael ei ostwng yn araf a gofyn i gyflogwyr gyfrannu tuag at gost cyflogau gweithwyr sydd ar ffyrlo

Os hoffech chi ymuno, dewiswch ddyddiad ac amser.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.