BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gweminar Guardians of Grub

Guardians of Grub: Becoming a Champion yw siop un stop WRAP ar gyfer gweithwyr lletygarwch a gwasanaeth bwyd proffesiynol sy'n ceisio'r wybodaeth sydd ei angen i arbed arian drwy leihau gwastraff bwyd yn eu busnes.

Gan gyfuno dysgu a datblygu sgiliau gydag archwiliadau gwybodaeth, tystysgrifau ac adrodd data ar sail tystiolaeth, bydd y rhaglen ddysgu ar-lein unigryw hon yn rhoi gwybodaeth i chi a'ch tîm am wastraff bwyd.  

 

Os ydych chi eisiau lleihau eich effaith ar newid hinsawdd, ymunwch â'r gweminar ar 25 Ionawr 2023 i ddysgu am eu cwrs diweddaredig newydd sbon a sut gallwch ymuno â'r nifer cynyddol o ddefnyddwyr sydd eisoes yn gweld manteision Guardians of Grub; Becoming a Champion ac mae'r rhaglen gyfan yn hollol rhad ac am ddim i'w defnyddio.

I ddarganfod mwy a chofrestru ar gyfer y gweminar rhad ac am ddim, cliciwch ar y ddolen ganlynol Guardians of Grub Becoming a Champion learning webinar Tickets, Wed 25 Jan 2023 at 14:00 | Eventbrite

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.