Datgarboneiddio yn y diwydiant pecynnu: Gwella cylcholdeb yn y sector plastigau
Bydd y weminar hon yn archwilio sut gall y sector plastigau ddatgarboneiddio yn y dyfodol, a pha offer a all helpu hwyluso’r newid hwn.
Yn ystod y weminar hon, bydd arbenigwyr yr Ymddiriedolaeth Garbon:
- Yn trafod sut gall y sector plastigau ddatgarboneiddio yn y dyfodol, a sut gall offer arloesol helpu hwyluso’r newid hwn
- Yn cyflwyno’r effaith bosibl y gall cynyddu cynnwys wedi’i ailgylchu, lleihau allyriadau mewn gweithgynhyrchu a seilwaith ailgylchu sefydlog gael ar allyriadau carbon o becynnu
- Yn archwilio’r pwysau cynyddol gan ddefnyddwyr, y gadwyn gyflenwi a buddsoddwyr i symud oddi wrth blastig pur
- Yn esbonio symudiadau allweddol gan lywodraethau, fel trethiant a ffurfio Cytuniad y Cenhedloedd Unedig i atal llygredd plastig
Mae’r weminar hon wedi’i thargedu at rolau cynaliadwyedd, caffael a dylunio pecynnau o fewn y sector pecynnu a manwerthu. Fe’i cynhelir ar 24 Mai 2022 rhwng 10am ac 11am.
Am fwy o wybodaeth ac i gadw’ch lle, ewch i Gweminar – Datgarboneiddio’r diwydiant pecynnu: Gwella cylcholdeb yn y sector plastigau | Yr Ymddiriedolaeth Garbon