BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gweminar Marchnata Croeso Cymru – Blwyddyn Croeso 2025

Ty Sawna

Mae Croeso Cymru yn cynnal sesiwn ar-lein i rannu eu cynlluniau ar gyfer Blwyddyn Croeso 2025 ac ymgyrch farchnata newydd i Gymru.

Bydd y sesiwn yn cael ei chynnal trwy Digwyddiad Byw Microsoft Teams ar 17 Hydref 2024 rhwng 2pm a 3.30pm.

Bydd y sesiwn hefyd yn cynnwys diweddariadau a throsolwg o:

  • Gweithgaredd marchnata diweddar a chyfredol
  • Gweithgaredd y diwydiant teithio
  • Gwefan newydd i'r Diwydiant
  • Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru 2025

Byddwch hefyd yn cael cyfle i ofyn cwestiynau yn ystod sesiwn holi ac ateb byr. 

Bydd adnoddau ar gael i bawb sy'n mynychu, gan gynnwys dadansoddiad o fathau o gynulleidfaoedd ar gyfer blwyddyn thematig 2025.

Cofrestrwch ar gyfer eich lle erbyn 4pm, 14 Hydref 2024 ar: Digwyddiadur Busnes Cymru - Mae gweminar marchnata Croeso Cymru


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.