BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gweminar Rheolau Tarddiad CThEM

Mae busnesau Cymru yn cael eu hannog i wylio gweminar newydd CThEM ar Reolau Tarddiad.

Bydd y weminar yn helpu masnachwyr i sicrhau eu bod yn manteisio ar y cyfraddau tariff ffafriol sydd ar gael iddynt ers 1 Ionawr 2021, am nwyddau y maent yn eu masnachu gyda'r UE.

Gweminar wedi'i recordio yw hon, y gall masnachwyr weithio drwyddi ar eu liwt eu hunain - ac mae'n defnyddio enghreifftiau ymarferol ac astudiaethau achos i amlinellu:

  • Sut i ddosbarthu nwyddau drwy ddod o hyd i'r cod nwyddau cywir
  • Sut i wirio a yw nwyddau'n bodloni'r Rheolau Tarddiad
  • Sut i gael prawf bod nwyddau'n bodloni'r Rheolau Tarddiad

Gallwch wylio'r weminar nawr ar sianel YouTube CThEM. 

Mae rhagor o wybodaeth, cymorth a chefnogaeth ar gael yma:


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.