BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gweminar Rheoliadau Ailgylchu yn y Gweithle

Colleagues gathered around a recycling poster

Ymunwch â'r gweminar am 10am ar 26 o Fedi 2023 am ganllawiau ar Reoliadau Ailgylchu yn y Gweithle newydd Cymru sy’n dod i rym o 6 Ebrill 2024.

I gofrestru ymlaen llaw ar gyfer y gweminar hwm cliciwch yma Webinar Registration - Zoom

Os ydych chi’n fusnes wedi’ch lleoli yng Nghymru neu’n gweithredu yng Nghymru, dyma weminar ar eich cyfer chi. Mae’r Rholiadau newydd yn berthnasol i bob math o eiddo annomestig (h.y. busnesau y sector cyhoeddu ac elusennau), ac yn galw am gyflwyno rhestr benodol o ddeunyddiau ar wahan i’w hailgylchu.

Mae’r Rheoliadau newydd hefyd yn cynnwys gwaharddiad ar waredu gwastraff bwyd i garthffosydd a thirlenwi a gwaharddiadau llosgi ar ddeunyddiau dethol. Os ydych chi’n fusnes casglu neu brosesu ailgylchu sy’n casglu ac yn rholi gwastraff o weithleoedd mae’r Rheoliadau’n berthnasol i chi hefyd.

Bydd y gweminar hwn yn cynnig arweiniad a manylion am y cymorth sydd ar gael gan WRAP Cymru i sicrhau ein bod yn cydymffurfio â'r Rheoliadau newydd.

Am ragor o wybodaeth am y newidiadau, dilynwch y ddolen ganlynol Ailgylchu yn y gweithle | LLYW.CYMRU 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.