BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gweminar Sefydliad Bevan: Dysgu am oes - yn ystod y cyfyngiadau symud a thu hwnt

Bydd y gweminar ar ffurf trafodaeth banel ac yn pwyso a mesur sut mae sefydliadau yn darparu cyfleoedd i ddysgu yn ystod y cyfyngiadau symud, ydy’r cyfyngiadau symud wedi newid ein ffordd o feddwl am ddysgu a beth mae Sefydliad Bevan a’r Brifysgol Agored yng Nghymru yn ei wneud i sicrhau bod gan fwy o bobl y gallu i ddysgu yn hyblyg ac o bell.

Bydd o ddiddordeb penodol i:

  • gyflogwyr gweithwyr yn yr economi sylfaenol
  • cyflogwyr gweithwyr o bell newydd
  • y sawl sy’n gwneud penderfyniadau ym myd ddysg

 

Trwy gymryd rhan yn y gweminar hwn, byddwch yn dysgu mwy am:

  • werth cynhenid dysgu yn y gwaith, y tu hwnt i gyflogadwyedd
  • sut gall sefydliadau fynd i’r afael â’r heriau o ddysgu yn y gwaith yn ystod cyfyngiadau symud

Cynhelir y gweminar am ddim ar 21 Mai 2020 rhwng 3.30pm a 4.30pm.

Am ragor o wybodaeth ac i gadw’ch lle, ewch i wefan Eventbrite.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.