Bydd y gyfres hon o weminarau Chwarae Teg yn eich helpu i ddarganfod sut beth yw cynnal eich busnes eich hun mewn gwirionedd, dod o hyd i syniadau a magu’r hyder i wneud hynny, a sicrhau eich bod wedi cael trefn ar yr ochr ariannol a’r camau ymarferol i ddechrau arni.
Mae’r gweminarau yn cynnwys:
- Allwn i fod yn fenyw fusnes? Dydd Mercher 9 Rhagfyr 2020, rhwng 11am a 1pm. Defnyddiwch y ddolen ganlynol i gadw’ch lle: https://chwaraeteg.com/digwyddiadau/allwn-i-fod-yn-fenyw-fusnes/
-
Oes gen i syniad? Dydd Mercher 16 Rhagfyr 2020, rhwng 11am a 1pm. Defnyddiwch y ddolen ganlynol i gadw’ch lle: https://chwaraeteg.com/digwyddiadau/oes-gen-i-syniad/
-
Ariannu eich busnes - Dydd Iau 17 Rhagfyr 2020, rhwng 11am a 12.30pm. Defnyddiwch y ddolen ganlynol i gadw’ch lle: https://chwaraeteg.com/digwyddiadau/ariannu-eich-busnes/