BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gweminarau CThEM – egluro tâl statudol

Os yw gweithiwr yn dod yn rhiant neu’n cael ei daro’n wael, ydych chi’n gwybod i ba daliadau mae ganddo/ganddi hawl?

Dysgwch fwy drwy ymuno yn y gweminarau byw canlynol. Gallwch ofyn cwestiynau drwy ddefnyddio’r bocs testun ar y sgrin.

Tâl Mamolaeth a Thadolaeth Statudol: Mae’r gweminar hwn yn rhoi sylw i’r amodau y mae’n rhaid i’ch gweithiwr eu bodloni, i faint maen ganddo/ganddi hawl, adhawlio rhywfaint neu’r cyfan o’r hyn rydych chi’n ei dalu a chadw cofnodion. Cofrestrwch yma

Tâl Salwch Statudol: Bydd yn edrych ar bwy sy’n gymwys, sut i gyfrifo Tâl Salwch Statudol a phryd y dylid ei dalu. Bydd y gweminar hefyd yn trafod beth yw diwrnodau cymhwyso a chyfnodau cysylltu ac yn tynnu sylw at y gwahaniaethau pan fo gweithwyr yn sâl neu’n hunanynysu yn sgil y coronafeirws. Cofrestrwch yma

Mae canllawiau ar-lein CThEM ar Dâl Salwch Statudol wedi’u rhannu’n adrannau i’w gwneud yn hawdd i ddod o hyd i’r hyn rydych chi’n chwilio amdano.

Yn olaf, bydd eu pecyn adnoddau taliadau statudol a chyfraniadau Yswiriant Gwladol sydd wedi’i lunio i helpu asiantau a chynghorwyr, hefyd yn ddefnyddiol i’r rhai sy’n delio â chyflogres.


 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.