Mae’r DU wedi gadael yr UE ac yn gadael marchnad sengl ac undeb tollau’r UE. Mae diwedd y cyfnod pontio yn golygu y dylai busnesau weithredu nawr i baratoi ar gyfer newidiadau anochel a rheolau newydd o fis Ionawr 2021. I gefnogi paratoadau busnes, mae’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol yn cynnal gweminarau am ddim i’ch helpu i fwrw golwg ar y rheolau newydd a deall y camau i’w cymryd.
Cynhelir y sesiynau byw ar yr adegau canlynol:
- Gwasanaethau a buddsoddi – 11am, bore Mawrth 13 Hydref 2020
- Manwerthu – 11am, bore Mercher 14 Hydref 2020
- Moduro – 2pm, prynhawn Mercher 14 Hydref 2020
- Metel a metelau eraill – 11am, bore Mawrth 20 Hydref 2020
- Electroneg a pheiriannau – 11am, bore Mercher 21 Hydref 2020
- Nwyddau defnyddwyr – 11am, bore Iau 22 Hydref 2020
- Gwyddorau Bywyd – 11am, bore Mawrth 27 Hydref 2020
- Adeiladu – 11am, bore Mercher 28 Hydref 2020
- Awyrofod – 11am, bore Iau 29 Hydref 2020
Yn dilyn y darllediad cychwynnol, bydd y gweminarau ar gael ar gais.