BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gweminarau Mynd i'r Afael â Thwyll Gyda'n Gilydd – Y Prif Fygythiadau i Fusnesau

Gall twyll ddigwydd i unrhyw fusnes, ac rydych yn llawer mwy tebygol o ddioddef y math hwn o drosedd nag unrhyw un arall yn y DU.  

Mae Nat West yn cynnal gweminarau drwy gydol mis Gorffennaf a mis Awst 2022 i rannu gwybodaeth a chodi ymwybyddiaeth o sut i frwydro yn erbyn twyll.

Bydd y weminar yn darparu adolygiad o'r mathau mwyaf cyffredin o dwyll ynghyd â darparu digon o gyngor ymarferol i'ch helpu i fod yn saff, yn ddiogel ac i ffynnu.

Dyma’r prif fygythiadau fydd yn cael eu trafod:

  • Sgamiau E-bost ac Ailgyfeirio Anfonebau
  • Y rôl y mae Peirianneg Gymdeithasol yn ei chwarae yn y mathau mwyaf cyffredin o dwyll
  • Syniadau ac awgrymiadau ar sut i gadw'n ddiogel ar-lein a thu hwnt

Bydd sesiwn holi ac ateb yn dilyn y cyflwyniad.

I gael mwy o wybodaeth ac i drefnu eich lle, ewch i Events | NatWest Business

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.