Mae cynllun gwersi Cymraeg am ddim Llywodraeth Cymru yn parhau i drawsnewid bywydau pobl ifanc ac athrawon.
Wrth i'r flwyddyn academaidd newydd agosau, mae gan bobl ifanc 16 i 25 oed a staff ysgolion ledled Cymru gyfle i ddysgu Cymraeg am ddim.
Mae'r cynllun gwersi Cymraeg am ddim, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, wedi bod yn rhedeg am ddwy flynedd, gyda dros 3,200 o bobl yn elwa ohono yn 2023-24.
Ym mis Gorffennaf, cyflwynodd Llywodraeth Cymru Fil y Gymraeg ac Addysg yn y Senedd. Nod y ddeddfwriaeth yw ceisio sicrhau bod pob disgybl yn cyrraedd diwedd oedran ysgol gorfodol yn ddefnyddiwr Cymraeg annibynnol, o leiaf, gan allu defnyddio'r iaith yn eu bywyd personol a’u bywyd gwaith.
Mae'r gwersi am ddim i bobl ifanc 16 i 25 oed yn cynnig ail gyfle i rai na ddysgodd siarad yr iaith yn ystod eu blynyddoedd ysgol.
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Dysgwch sgil newydd ym mis Medi - gwersi Cymraeg am ddim i bobl ifanc ac athrawon | LLYW.CYMRU
Gall defnyddio ychydig bach o Gymraeg yn eich busnes wneud gwahaniaeth mawr. Helo Blod yw eich gwasanaeth cyngor a chyfieithu Cymraeg cyflym a chyfeillgar. Ac mae am ddim. I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Croeso i Helo Blod | Helo Blod (llyw.cymru)