BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwerth dros £8 miliwn o fenthyciadau yn helpu i adfywio canol trefi a dinasoedd ledled Cymru

More than £8 million worth of loan funding will help revitalise town and city centres across Wales

Cadarnhaodd Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd y bydd pum awdurdod lleol yn elwa ar raglen trefi gwerth £8 miliwn Llywodraeth Cymru.

Mae'r Rhaglen Benthyciadau Trawsnewid Trefi yn cefnogi awdurdodau lleol i gynnal prosiectau adfywio canol trefi a dinasoedd. Mae wedi dyrannu mwy na £73 miliwn ers ei lansio yn 2014 ac wedi sicrhau bod dros 600 o unedau yn cael eu defnyddio eto.

Bydd awdurdodau lleol Caerffili, Caerdydd, Abertawe, Gwynedd a Wrecsam yn elwa ar y cyhoeddiad cyllido diweddaraf a byddant yn defnyddio'r arian i helpu i adfywio canol trefi a dinasoedd, a rhoi bywyd newydd i adeiladau gwag.

Mae'r benthyciad yn cael ei ddefnyddio i helpu perchnogion eiddo i gael gafael ar y cyllid sydd ei angen arnynt i fuddsoddi a thyfu yn ystod cyfnodau heriol. Bydd yn lleihau nifer y safleoedd gwag, segur nad ydynt yn cael eu defnyddio'n ddigonol i annog arallgyfeirio i gynnal y trefi fel mannau i fyw, gweithio ac aros ynddynt ac i ymweld â nhw.

Mae mynd i'r afael ag eiddo gwag yn biler canolog Rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, a bydd y cyllid hwn ar ffurf benthyciadau yn cael ei ddefnyddio ochr yn ochr â phrif raglen y grant adfywio gwerth £100 miliwn (dros dair blynedd), y rhaglen Benthyciadau Eiddo gwerth £43 miliwn, ac ystod o ddulliau gorfodi sydd ar gael i gefnogi awdurdodau lleol ledled Cymru.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Gwerth dros £8 miliwn o fenthyciadau yn helpu i adfywio canol trefi a dinasoedd ledled Cymru | LLYW.CYMRU


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.