Mae Enterprise Nation a VistaPrint wedi dod at ei gilydd i ddarparu rhaglen grant arian parod gwerth hyd at £150,000 a fydd yn helpu cyw entrepreneuriaid i dyfu eu mentrau.
Yn y rhaglen, bydd 20 o fusnesau bach o bob cwr o’r Deyrnas Unedig yn ennill £7,500 yr un, ochr yn ochr â chymorth ac arbenigedd marchnata a dylunio, i helpu eu busnes i ffynnu.
I fod yn gymwys i wneud cais, rhaid i’ch busnes:
- fod â’i gartref yn y DU a rhaid bod gennych gyfrif busnes gyda banc yn y DU
- bod yn fusnes cofrestredig neu wedi cofrestru’n hunangyflogedig, gyda thystiolaeth o’ch Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr
- bod â gweithlu o ddim mwy na 10 o weithwyr
- bod yn masnachu ers o leiaf dri mis
- ddim yn mynd trwy broses ansolfedd, archwilio (examinership), yn llaw’r derbynnydd nac yn mynd trwy unrhyw broses debyg ac,
- os gofynnir amdano, rhaid i’ch busnes fod yn barod i rannu ei hanes llwyddiannus o ddefnyddio’i grant arian parod (gallai VistaPrint ddefnyddio a/neu gyhoeddi’r manylion hyn ymhellach at amrywiol ddibenion fel marchnata, hysbysebu a chysylltiadau cyhoeddus)
Bydd ceisiadau’n cau am 23:59, 26 Chwefror 2023.
Os yw eich busnes yn bodloni’r meini prawf cymhwystra, gwnewch gais nawr trwy ddilyn y ddolen ganlynol Gwireddu’r Anhygoel | Enterprise Nation