BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwirio neu roi gwybod am rwystr masnach

person using a digital device checking shipping containers

Mae rhwystr masnach yn rhywbeth sy’n arafu, yn cyfyngu neu’n atal busnes yn y DU rhag allforio i farchnad dramor neu fuddsoddi mewn un.

Gall effeithio ar fusnesau o bob maint ac ym mhob cam o allforio, hyd yn oed os ydych chi ond yn archwilio cyfleoedd.

Gwirio a roddwyd gwybod eisoes am rwystr masnach

Bydd y gwasanaeth yn rhoi teitl y rhwystr masnach i chi a’r cod adnabod i roi gwybod am unrhyw broblemau â rhwystr presennol: Check for barriers to trading and investing abroad - GOV.UK

Rhoi gwybod am rwystr masnach newydd

Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i roi gwybod am rwystr masnach newydd neu broblemau â rhwystr presennol: Report a trade barrier - great.gov.uk

Beth am fwrw golwg ar Busnes Cymru Allforio i ddarganfod sut gall allforio o bosibl drawsnewid bron pob agwedd ar eich busnes. 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.