Dysgwch pryd mae’n rhaid i chi fodloni gofynion y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.
Yn gyntaf, dylech wirio a allwch gofrestru ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.
Mae’n rhaid i chi fodloni’r gofynion ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm o 6 Ebrill 2026 os yw pob un o’r canlynol yn berthnasol i chi:
- rydych yn unigolyn
- rydych wedi’ch cofrestru ar gyfer Hunanasesiad (dysgwch fwy am gofrestru ac anfon Ffurflen Dreth Hunanasesiad)
- roeddech yn hunangyflogedig neu’n casglu incwm o eiddo cyn 6 Ebrill 2025
- mae gennych incwm cymwys sy’n fwy na £50,000
Mae’r dyddiadau’n wahanol ar gyfer partneriaethau neu os byddwch yn dod yn landlord neu’n unig fasnachwr.
I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Gwirio pryd i gofrestru ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm - GOV.UK (www.gov.uk)