BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwiriwr Cymhwysedd Cymorth Busnes Cronfa Cadernid Economaidd COVID-19 – Rhagfyr 2021 – Chwefror 2022

Mae'r Gronfa Cadernid Economaidd wedi'i thargedu at fusnesau a sefydliadau yn y sectorau lletygarwch, hamdden ac atyniadau a'u cadwyni cyflenwi, sydd wedi'u heffeithio’n sylweddol gan ostyngiad o fwy na 50% o drosiant rhwng 13 Rhagfyr 2021 a 14 Chwefror 2022.

Amcan y gronfa yw ategu mesurau ymateb Covid-19 eraill i gefnogi busnesau, mentrau cymdeithasol a sefydliadau elusennol yng Nghymru.

Bydd y Gronfa yn cefnogi:

  • Busnesau wedi cael eu heffeithio rhwng 13 Rhagfyr 2021 a 14 Chwefror 2022 ac wedi cau oherwydd y rheoliadau ar 26 Rhagfyr 2021.
  • Gofod Digwyddiadau ac atyniadau wedi’u heffeithio'n ddifrifol gan gyfyngiadau rhwng 13 Rhagfyr 2021 a 14 Chwefror 2022.
  • Busnesau eraill sydd â mwy na 60% o effaith ar drosiant o ganlyniad uniongyrchol i'r cyfyngiadau rhwng 13 Rhagfyr 2021 a 14 Chwefror 2022.

Ac (yn berthnasol i bawb):

  • Wedi cael eu heffeithio yn sylweddol drwy lai o drosiant o 50% neu fwy rhwng mis Rhagfyr 2021 ac Chwefror 2022 o'i gymharu â mis Rhagfyr 2019 a mis Chwefror 2020.

Gallwch ddefnyddio'r offeryn hwn i wirio'ch cymhwysedd ar gyfer y pecyn pellach hwn o gymorth.

I ddarllen y Nodiadau Canllaw a'r Cwestiynau Cyffredin ewch i Cronfa Cadernid Economaidd (ERF) Rhagfyr i Chwefror 2022 | Busnes Cymru (gov.wales)

Am ragor o wybodaeth, ewch i https://businesswales.gov.wales/coronavirus-advice/cy 

Yn ogystal â’r Gronfa Cadernid Economaidd, bydd Awdurdodau Lleol yn darparu grantiau sy’n gysylltiedig ag ardrethi annomestig (NDR) i fusnesau manwerthu, lletygarwch, hamdden a thwristiaeth nad ydynt yn hanfodol (NERHLT). Ni fydd proses ymgeisio ar gyfer yr elfen hon ond i gael taliad, rhaid i fusnesau gofrestru â’u hawdurdod lleol i gadarnhau eu manylion. Yna bydd grantiau cysylltiedig ag NDR yn cael eu talu’n uniongyrchol i dalwyr ardrethi fel a ganlyn:

  • Bydd busnesau NERHLT sy’n derbyn Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach (SBRR) ac sydd â gwerth ardrethol o £12,000 neu lai yn gymwys am daliad o £2,000.
  • Bydd busnesau NERHLT sydd â gwerth ardrethol rhwng £12,001 a £51,000 yn gymwys am daliad o £4,000 os yw’r cyfyngiadau’n effeithio arnynt.
  • Bydd busnesau NERHLT sydd â gwerth ardrethol rhwng £51,001 a £500,000 yn gymwys am daliad o £6,000 os yw’r cyfyngiadau’n effeithio arnynt.

Bydd awdurdodau lleol hefyd yn rhedeg cronfa ddewisol drwy broses ymgeisio fer.

Bydd unig fasnachwyr, gweithwyr llawrydd a gyrwyr tacsi yn gallu gwneud cais am £1,000 a bydd busnesau sy’n cyflogi pobl ond nad ydynt yn talu ardrethi busnes yn gallu gwneud cais am £2,000.

Bydd y broses gofrestru ar gyfer y grantiau sy’n gysylltiedig ag ardrethi annomestig  yn agor ar 13 Ionawr 2022.
 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.