BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwneud cais am Ddyfarniad Prisio Uwch

Gwnewch gais am Ddyfarniad Prisio Uwch er mwyn rhoi cadarnhad cyfreithiol i chi o ran y dull cywir i’w ddefnyddio wrth brisio’ch nwyddau er mwyn gwneud datganiad mewnforio.

Pan fyddwch yn mewnforio nwyddau i’r DU, bydd yn rhaid i chi sefydlu’r dull cywir i’w ddefnyddio ar gyfer cyfrifo gwerth tollau’r nwyddau.

Gallwch wneud cais i CThEF am Ddyfarniad Prisio Uwch cyn i chi wneud datganiad mewnforio, a hynny er mwyn:

  • gwirio mai’r dull cywir yw’r dull prisio (yn Saesneg) rydych wedi’i adnabod
  • cael penderfyniad a gefnogir gan y gyfraith, sy’n cadarnhau y gallwch ddefnyddio’r dull hwn cyn i chi wneud eich datganiad mewnforio

Gall gymryd hyd at 90 diwrnod i roi penderfyniad i chi, ar ôl i chi wneud cais a bod eich cais wedi’i dderbyn.

Nid yw Dyfarniad Prisio Uwch yn orfodol ac mae’n dal i fod yn bosibl mewnforio nwyddau i’r DU (yn Saesneg) heb ddyfarniad. Fodd bynnag, mae dyfarniad yn gallu helpu i sicrhau eich bod yn talu’r tollau cywir ar y nwyddau rydych yn eu mewnforio.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Gwneud cais am Ddyfarniad Prisio Uwch - GOV.UK (www.gov.uk)

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.