BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwneud i bethau ddigwydd – Rhwydwaith Entrepreneuraidd Menywod

Ydych chi wastad wedi bod eisiau rhedeg eich busnes eich hun, ond ddim yn siŵr lle i ddechrau arni? Poeni na fydd eich syniad yn gweithio? Neu ddim hyd yn oed yn siŵr a oes gennych chi syniad o gwbl?

Mae Chwarae Teg, NatWest a Simply Do Ideas yn gweithio mewn partneriaeth ar gyfres o ddigwyddiadau ‘Oes gen i syniad?’ a fydd yn dod â darpar entrepreneuriaid at ei gilydd i gydweithio, rhannu a chael eu hysbrydoli.

Os ydych chi yn y De, y Gorllewin neu’r Gogledd, bydd pob digwyddiad yn eich cyflwyno i fenywod eraill a modelau rôl. Bydd y modelau rôl hyn yn cynnig eu harbenigedd busnes a hefyd yn eich ysbrydoli i gychwyn arni.

Bydd pob digwyddiad hefyd yn cynnig sesiwn ymarferol wedi’i chynllunio i’ch helpu i weld a oes gennych chi syniad, mapio’ch sgiliau, darganfod eich cymhellion a magu’ch hyder i fentro.

Cofrestrwch isod i fynychu’ch digwyddiad lleol agosaf. Cynhelir y digwyddiadau rhwng 10.30am a 12.30pm:

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Chwarae Teg.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.