BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwneud mesurau COVID-19 yn hygyrch i’ch cwsmeriaid dall a rhannol ddall

Er mwyn gallu cadw pellter cymdeithasol, rhaid i chi allu gweld lle mae pobl eraill. Dyw hynny ddim yn bosib i lawer o bobl sydd â nam ar eu golwg, ac mae hyn wedi effeithio ar annibyniaeth a hyder pobl.

Wrth i fusnesau ddechrau ailagor, mae gwneud newidiadau i ddiogelu staff a chwsmeriaid yn bwysig dros ben ac mae’n hanfodol bod y newidiadau hyn yn hygyrch i gwsmeriaid dall a rhannol ddall. 

Mae’r RNIB wedi creu canllawiau arfer gorau i helpu busnesau i ddeall sut gallan nhw helpu eu cwsmeriaid dall a rhannol ddall gyda’r newidiadau hyn. 

Darllenwch y canllawiau yn: https://www.rnib.org.uk/services-for-businesses/supporting-blind-and-pa…

 

 



 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.