BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwneud y gorau o’ch sgôr hylendid bwyd

sgôr hylendid bwyd

Mae sgôr hylendid bwyd da yn rhoi hwb i fusnes. Pan fyddwch chi’n ennill y sgôr hylendid bwyd uchaf, mae’n bryd dechrau gwneud y gorau o’r manteision.

I fusnesau yn y sectorau bwyd a lletygarwch, gall eich sgôr hylendid fod yn offeryn pwerus. Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn cynnig cyngor ymarferol ar sut i wneud y gorau o’ch sgôr, gan eich helpu i wella ymddiriedaeth cwsmeriaid ac ymdrechion marchnata.

Rhaid i fusnesau bwyd yng Nghymru arddangos y sticer sgôr a anfonwyd atynt. Dyna’r gyfraith. Rhaid ei arddangos wrth neu ger mynedfa eich busnes mewn man lle gall eich cwsmeriaid ei weld yn hawdd.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Manteisio i’r eithaf ar eich sgôr hylendid bwyd | Asiantaeth Safonau Bwyd (food.gov.uk)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.