BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwnewch eich gweithle’n gwbl gynhwysol ar gyfer staff a chwsmeriaid sy’n fyddar neu â cholled clyw

mature warehouse worker

Mae’n bwysig sicrhau bod eich gweithle’n gynhwysol ar gyfer pobl fyddar a phobl â cholled clyw. Mae colled clyw yn effeithio ar 1 o bob 8 o bobl oedran gweithio, a gall hyn effeithio ar eu cyfathrebu, eu cynhyrchiant a’u lles.

Mae Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Fyddar (RNID) yn elusen annibynnol sy’n cefnogi’r 12 miliwn o bobl yn y DU sy’n fyddar, neu â cholled clyw neu dinitws.

Gallwch chi ddysgu am:

  • Helpu eich staff i wirio eu clyw gyda’n prawf ar-lein
  • Cefnogi staff byddar a staff â cholled clyw
  • Cyfathrebu â staff a chwsmeriaid sy’n fyddar neu â cholled clyw
  • Hyfforddiant i fusnesau a sefydliadau
  • Asesiadau yn y gweithle
  • Gwneud recriwtio’n hygyrch

I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: Support for businesses and organisations - RNID


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.