BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwnewch gais am gyfle i roi hwb i'ch busnes newydd gyda €100,000 a llawer mwy

Os ydych chi'n fusnes bach i ganolig newydd sy'n gwerthu cynnyrch ffisegol arloesol i ddefnyddwyr, gwnewch gais heddiw am Wobrau Arloesedd Amazon Launchpad am gyfle i ennill €100,000 a mwy. 

Gwiriwch fod pob un o'r canlynol yn wir am eich busnes. Os felly, llongyfarchiadau – rydych yn gymwys i wneud cais! 

  • Rydych chi'n fusnes sydd wedi’i gofrestru mewn gwlad AEE (Ardal Economaidd Ewropeaidd), y DU neu'r Swistir. 
  • Rydych chi'n gwerthu cynnyrch ffisegol i ddefnyddwyr, nid i fusnesau eraill. 
  • Eich busnes chi yw perchennog brand y cynnyrch a gyflwynwyd. 
  • Rydych yn fusnes bach neu ganolig - yn cyflogi llai na 250 o weithwyr gyda chyfanswm trosiant blynyddol o lai na €50 miliwn, a/neu gyfanswm mantolen flynyddol heb fod yn fwy na €43 miliwn adeg cyflwyno’r cais. 

Bydd eu panel beirniadu yn dewis un enillydd cyffredinol ac ugain brand a gafodd ganmoliaeth uchel ar gyfer y rownd derfynol. Bydd y busnes newydd gorau hefyd yn cael ei gyhoeddi o bob un o'r gwledydd sydd â'r nifer fwyaf o geisiadau. 

Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw 29 Mai 2022.

Am ragor o wybodaeth ewch i Wobrau Arloesedd Amazon Launchpad


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.