Mae NFU Cymru wedi lansio’r Wobr Amaethyddiaeth Gynaliadwy i gydnabod cyfraniad unigryw mentrau ffermio Cymru at les economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol Cymru.
Bydd Gwobr Amaethyddiaeth Gynaliadwy NFU Cymru / Wynnstay Group PLC yn cael ei dyfarnu i’r fferm neu’r ffermwr sy’n gallu gwneud pob un o’r pethau canlynol:
- Dangos ymrwymiad i gynhyrchu bwyd o ansawdd uchel i safonau o’r radd flaenaf.
- Dangos eu cyfraniad cadarnhaol at warchod, cynnal a gwella ansawdd yr amgylchedd ffermio.
- Dangos eu cyfranogiad a'u cyfraniad i'r economi wledig, y gymuned wledig a diwylliant Cymru.
Bydd enillydd y wobr yn cael £500 a gwobr i’w chadw. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais yw dydd Gwener 6 Medi 2024.
Gwahoddir enwebiadau gan ffermydd a/neu ffermwyr ledled Cymru. Gall ffermwyr eu henwebu eu hunain neu gallant gael eu henwebu gan ffrindiau, perthnasau neu sefydliadau.
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: NFU Cymru – NFU Cymru (nfu-cymru.org.uk)