BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwobr Arloesi Photonics21

Mae Gwobr Arloesi Photonics21 yn gystadleuaeth ar gyfer syniadau busnes sydd yn eu camau cynnar. Gall fod yn syniad syml, yn syniad na allwch ei anghofio neu syniad rydych chi wedi bod yn gweithio arno ers tro.

Nod Photonics21 yw cefnogi gwneuthurwyr talentog, myfyrwyr ac entrepreneuriaid ifanc sydd â diddordeb gwirioneddol mewn datblygu syniad yn gynnyrch drwy gyfuno creadigrwydd â ffotoneg.

Mae'r gystadleuaeth yn cynnwys gwobr ariannol o €5,000, hyfforddiant sgiliau entrepreneuraidd, a chyswllt â Chyfalafwyr Menter. I gymryd rhan, bydd angen i chi anfon cyflwyniad fideo dwy funud o hyd ar y mwyaf o'ch cysyniad, neu ddisgrifiad ysgrifenedig o'ch syniad/cynnyrch gan wneud yn glir natur yr arloesi a'r effaith bosibl i ddiwydiant. 

Y dyddiad cau i wneud cais yw 15 Chwefror 2023.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Photonics21 Innovation Award
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.