BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwobr Effaith mewn Menter Gymdeithasol 2024

team members in a circle

Mae Gwobr Creu Ymddiriedaeth (Building Trust) PwC am Effaith mewn Menter Gymdeithasol, mewn partneriaeth â'r Ysgol Entrepreneuriaid Cymdeithasol, yn rhoi cydnabyddiaeth i fentrau cymdeithasol yn y DU sy'n dangos rhagoriaeth o ran rhoi gwybod am effaith.

Er mwyn gwneud cais, rhaid i ymgeiswyr nodi sut maent yn dangos effaith gymdeithasol a/neu amgylcheddol gadarnhaol, yn ogystal â chyflwyno tystiolaeth ansoddol a meintiol i gefnogi eu cais. Bydd yr enillydd yn cael rhodd o £5,000 a dau ymgeisydd uchel eu clod yn cael £2,500.

Rhaid i geisiadau gael eu cyflwyno erbyn 5pm ddydd Gwener 28 Mehefin 2024.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Impact in Social Enterprise Award 2024 - PwC UK


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.