BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwobr The Longitude Prize on Dementia

Mae gwobr The Longitude Prize on Dementia yn wobr gwerth £4.34 miliwn a fydd yn ysgogi creu offer personoledig yn seiliedig ar dechnoleg sy'n cael eu creu ar y cyd gyda phobl sy'n byw gyda chamau cynnar dementia, gan eu helpu i fyw bywydau annibynnol, mwy bodlon, fel y gallan nhw wneud y pethau y maent yn eu mwynhau.

Mae dementia yn gyflwr cynyddol ac nid oes modd ei wella, ond gall pobl fyw'n dda am flynyddoedd. Gan y gall bod mewn ysbyty gynyddu cyfradd y dirywiad, y gobaith yw y gall technoleg gynorthwyol helpu pobl i gadw'n ddiogel ac yn annibynnol yn eu cartref am gyfnod hirach. Bydd yr ateb buddugol yn defnyddio'r datblygiadau diweddaraf ym maes technoleg, deallusrwydd artiffisial (AI) a dysgu peirianyddol ar y cyd â data defnyddwyr a phrofi i ddarparu cefnogaeth bersonol i bobl sy'n byw gyda dementia.   

Bydd gwobr The Longitude Prize on Dementia yn cael ei dyfarnu i grëwr technoleg arloesol sy'n dysgu oddi wrth unigolyn sy'n byw gyda dementia, sy’n addasu a cheisio gwneud iawn am eu cyflwr wrth iddo ddatblygu, a'u galluogi i barhau i fyw'n annibynnol am gyfnod hirach. 
Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw 26 Ionawr 2023.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol https://dementia.longitudeprize.org/about-the-prize/ 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.