BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwobr Undod Sifil EESC

Mae Pwyllgor Economaidd a Chymdeithasol Ewrop (EESC) yn lansio Gwobr Undod Sifil, gwobr unwaith ac am byth gyda’r thema benodol “Cymdeithas sifil yn erbyn COVID-19”.

Bydd y Wobr Undod Sifil yn anrhydeddu mentrau creadigol ac effeithiol gan unigolion, sefydliadau cymdeithas sifil a chwmnïau dan berchnogaeth breifat sydd wedi gwneud cyfraniad rhagorol i fynd i’r afael ag argyfwng COVID-19.

Bydd yr EESC yn dyfarnu hyd at 29 o wobrau, am y swm o €10,000 i fentrau a gynhelir yn nhiriogaeth yr UE neu’r Deyrnas Unedig. 

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner dydd ar 30 Medi 2020. 

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan EESC.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.