Mae Gwobrau'r Frenhines am Fenter yn cael eu rhoi am gyflawniad rhagorol busnesau'r DU yn y categorïau hyn:
- arloesi
- masnach ryngwladol
- datblygu cynaliadwy
- hybu cyfleoedd drwy symudedd cymdeithasol
Beth fydd yn digwydd os bydd eich cwmni’n ennill
Os byddwch yn ennill, byddwch yn:
- cael eich gwahodd i'r derbyniad Brenhinol
- derbyn y wobr, a fydd yn cael ei chyflwyno gan un o gynrychiolwyr y Frenhines sy’n Arglwydd Raglaw, yn eich cwmni
- cael hedfan baner Gwobrau'r Frenhines yn eich prif swyddfa a defnyddio'r arwyddlun ar eich deunydd marchnata (er enghraifft, ar eich deunydd pecynnu, eich hysbysebion, eich offer swyddfa a’ch gwefan)
- cael Ardystiad (tystysgrif swyddogol) a gwobr goffa grisial
Mae’r gwobrau yn ddilys am 5 mlynedd.
Mae enillwyr wedi dweud eu bod wedi cael budd o’r wobr, fel cydnabyddiaeth fyd-eang, gwerth masnachol uwch, mwy o sylw yn y wasg a gwella morâl y staff.
Cyflwynwch eich cais erbyn hanner dydd ar 9 Medi 2020.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan GOV.UK website.