Mae’r wobr hon yn dathlu’r entrepreneuriaid benywaidd wrth wraidd arloesiadau Ewrop sy’n torri tir newydd.
Ar gyfer rhifyn 2023 i 2024, mae’r Cyngor Arloesi Ewropeaidd a’r Sefydliad Ewropeaidd dros Arloesi a Thechnoleg wedi dod ynghyd i greu Gwobr Ewropeaidd mwy o faint a mwy beiddgar i Arloeswyr Benywaidd, gyda dim llai na 9 gwobr i’w dyfarnu.
Mae’r Wobr Ewropeaidd i Arloeswyr Benywaidd yn dathlu’r menywod wrth wraidd arloesiadau mwyaf blaengar Ewrop. Mae’r wobr yn gwobrwyo menywod o bob cwr o’r UE ac o wledydd sy’n gysylltiedig â Horizon Europe, y mae eu harloesiadau sy’n tarfu yn gyrru newid cadarnhaol i bobl ac i’r blaned.
Mae tri chategori i’r gwobrau:
- Gwobr Menywod sy’n Arloeswyr
- Gwobr Arloeswyr ar Gynnydd
- Gwobr Arweinyddiaeth Menywod EIT
Gall ymgeiswyr cymwys wneud cais ar gyfer un categori yn unig.
Mae’r wobr yn agored i:
- Fenywod (mae’r wobr hon yn dathlu menywod yn eu holl amrywiaeth)
- Sydd wedi sefydlu’u hunain yn un o aelod wladwriaethau’r UE neu Wlad Gysylltiedig â Horizon Europe
- Sydd wedi sefydlu cwmni blaengar a gofrestrwyd o leiaf ddwy flynedd cyn blwyddyn yr alwad
Rhaid i’r rheiny sy’n gwneud cais am y categori Arloeswyr ar Gynnydd fod o dan 35 oed. Nid oes uchafswm oedran ar gyfer gwneud cais am Wobr yr Arloeswyr Benywaidd nac Arweinyddiaeth Menywod EIT.
Bydd ceisiadau cymwys yn cael eu gwerthuso yn erbyn 3 maen prawf ar gyfer y gwobrau:
- Arloesiad sy’n torri tir newydd
- Effaith
- Ysbrydoliaeth
Bydd ceisiadau’n cau ar 27 Medi 2023.
I gael rhagor o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol European Prize for Women Innovators powered by EIC & EIT (europa.eu)