BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwobrau a Chynhadledd Busnes Cymdeithasol Cymru 2024

business conference - delegates applauding

Cynhelir Gwobrau a Chynhadledd Busnes Cymdeithasol Cymru ar 1 a 2 Hydref 2024 yn Venue Cymru, Llandudno.

Mae'r gwobrau, yn ei nawfed flwyddyn, yn dathlu mentrau cymdeithasol yng Nghymru a'r gwahaniaeth maen nhw’n ei wneud yn eu cymunedau. Daeth ceisiadau am y gwobrau i ben ar 16 Gorffennaf 2024 a bydd yr enillwyr yn cael eu datgelu ar 1 Hydref 2024. 

Bydd y gynhadledd ar 2 Hydref 2024 yn darparu amgylchedd ar gyfer cyfnewid gwybodaeth, annog arloesedd, a darparu cyfleoedd i ddysgu ac adeiladu partneriaethau gyda'r sector preifat a chyhoeddus.

Mae'r gweithdai yn cynnwys:

  • Y Bunt Gymreig: Cadw cadwyni cyflenwi caffael yn lleol
  • Rôl Mentrau Cymdeithasol wrth hybu twf a chynhyrchiant drwy drawsnewid economïau lleol
  • Beth sydd ei angen ar y sector i lwyddo mewn cyfnodau cyfnewidiol
  • Creu Cymru fwy cynhwysol a thosturiol

Cliciwch ar y dolenni canlynol i gael rhagor o wybodaeth ac i archebu eich tocyn: 

Ydych chi eisiau dechrau busnes sy'n gwneud gwahaniaeth? Gallwn ni eich helpu: Busnes Cymdeithasol Cymru (llyw.cymru) 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.