BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwobrau Addysg Oedolion Ysbrydoli! 2022

Mae gwobrau Ysbrydoli! yn dathlu dysgu a sgiliau. Mae Ysbrydoli, sy’n rhan o’r Sefydliad Dysgu a Gwaith, yn chwilio am unigolion, prosiectau cymunedol a sefydliadau sydd wedi elwa yn sgil cyflawniadau dysgu.

Mae’r gwobrau yn chwilio am enwebiadau sydd wedi cael profiad cadarnhaol o addysg oedolion – y rhai sydd wedi gwella eu bywydau eu hunain ynghyd â’r bobl o’u cwmpas ledled Cymru, gan arddangos sut gall dysgu gydol oes drawsnewid bywydau.

Dyma’r categorïau eleni:

  • Sgiliau Gwaith
  • Oedolyn Ifanc 
  • Newid Bywyd a Chynnydd
  • Heneiddio’n Dda
  • Dechrau Arni – Dysgu Cymraeg
  • Gorffennol Gwahanol: Rhannu Dyfodol
  • Sgiliau Hanfodol Bywyd
  • Cymru Egnïol (newydd ar gyfer 2022)
  • Cymru ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol (newydd ar gyfer 2022)
  • Gwobr Hywel Francis am Effaith Cymunedol
  • Gwneuthurwyr Newid Gweithle

Y dyddiad cau ar gyfer yr enwebiadau yw dydd Mawrth 1 Mawrth 2022.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan y Sefydliad Dysgu a Gwaith.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.