BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwobrau Amddiffynwyr Parciau Cenedlaethol 2023

Gallwch nawr gyflwyno enwebiadau ar gyfer Amddiffynwyr Parciau Cenedlaethol 2023!

Mae Amddiffynwyr Parciau Cenedlaethol yn unigolion a grwpiau sy'n mynd y filltir ychwanegol mewn Parciau Cenedlaethol ac ar eu cyfer. O brosiectau ar raddfa fawr sy'n helpu natur i adfer i grwpiau ar lawr gwlad sy’n gwella mynediad cymunedol i Barciau Cenedlaethol a gwirfoddolwyr sy'n helpu pobl i ymweld yn gyfrifol. Mae degau o filoedd o Amddiffynwyr Parciau Cenedlaethol yn gweithio o ddydd i ddydd, ar y dasg ddiddiwedd hon. Gwobrau blynyddol Amddiffynwyr Parciau Cenedlaethol yw'r cyfle i gydnabod a gwobrwyo'r ymdrechion hyn.

Dyma gategorïau’r gwobrau eleni:

  • Gwobr Natur Parciau Cenedlaethol 
  • Gwobr Safbwyntiau Newydd
  • Gwobr Gwneuthurwr Newid y Flwyddyn

Gall unrhyw un enwebu unigolyn, tîm neu brosiect ar gyfer y gwaith y maent wedi'i wneud mewn Parciau Cenedlaethol yng Nghymru neu Loegr yn ystod 2022 - 23. Mae croeso i chi enwebu eich hun/eich tîm/eich prosiect. 

Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw 11.59pm ar 4 Mehefin 2023.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol National Park Protector Awards 2023 | Campaign for National Parks (cnp.org.uk)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.