Mae Gwobrau Arfordir Cymru yn chwarae rôl hanfodol yn diogelu ein hamgylchedd morol gwerthfawr a chânt eu cydnabod ar draws y byd fel symbol o ansawdd. Rydym wedi rheoli’r Faner Las, Gwobr Arfordir Glas a’r Wobr Glan Môr ers dros 20 mlynedd.
I gael un o’r gwobrau blaenllaw hyn, mae’n rhaid i draeth, marina neu gwmni teithiau cychod fodloni a chynnal y safonau amgylcheddol uchaf a chyrraedd targedau ansawdd dŵr llym.
Mae Gwobrau Arfordir Cymru yn sicrwydd i ymwelwyr eu bod wedi cyrraedd cyrchfan o ansawdd.
Gyda nifer gynyddol o bobl yn penderfynu mynd ar wyliau gartref, mae ein lleoliadau sydd wedi ennill gwobrau nid yn unig yn rhan anhygoel o Gymru, ond maent yn atyniad i fusnesau lleol.
Gwestai a thai llety
Os yw eich gwesty neu dŷ llety wedi ei leoli gerllaw traeth sydd wedi cael gwobr, bydd gan eich ymwelwyr sicrwydd o ddarn o arfordir glân, deniadol sydd wedi ei reoli’n dda. Ynghŷd â Gwobrau’r Arfordir, mae’r Sefydliad Addysg Amgylcheddol hefyd yn datblygu eco-label arall ar gyfer llety: gwobr Goriad Gwyrdd.
Atyniadau twristiaid
Hyrwyddwch Wobrau’r Arfordir fel rhan o’ch atyniad a dathlwch ein harfordir hardd.
Siopau a bwytai
Gwobrau’r Arfordir yw’r safon cenedlaethol ar gyfer y traethau gorau ac mae’n offeryn hyrwyddo rhagorol i’ch busnes.
A yw eich busnes chi gerllaw Baner Las? Dechreuwch godi llais am hyn heddiw!
Nod pecyn cymorth digidol Cymru Las yw eich ysbrydoli i godi llais am eich Baner Las leol, fydd yn ei dro yn gwella dealltwriaeth pobl o’u hardal ac yn denu cwsmeriaid i’ch busnes tra’n mwynhau’r amgylchedd rhagorol.
I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Cymorth i fusnesau - Keep Wales Tidy