Mae Gwobrau Ashden 2022 bellach ar agor i’r holl arloeswyr hinsawdd sy’n trawsnewid y byd gwaith.
Mae’r Gwobrau yn cyflymu arloesi o ran hinsawdd, gan helpu busnesau, elusennau, llywodraethau ac eraill i rymuso eu heffaith yn y DU ac mewn cenhedloedd incwm isel.
Categorïau Gwobrau Ashden 2022:
- Ynni i Fywoliaethau Ffoaduriaid
- Sgiliau Mynediad at Ynni
- Ynni Amaethyddiaeth
- Arloesi gydag Ynni (DU)
- Sgiliau mewn Sectorau Carbon Isel (DU)
- Gwyrddu Pob Gwaith (DU
Bydd chwe enillydd y derbyn grant o £10,000 i £25,000, ffilm hyrwyddo a mynediad at gyfleoedd cyhoeddusrwydd a rhwydweithio - gan gynnwys cysylltiadau â buddsoddwyr, cyllidwyr a’r cyfryngau.
Gallwch wneud cais am ddim ac mae’r dyddiad cau ddydd Mawrth, 15 Mawrth 2022.
Am ragor o wybodaeth, ewch i Wobrau Ashden