Enwebwch fusnesau neu gwmnïau ar gyfer Gwobrau Busnes Ardal yr Eisteddfod 2024.
Dyma’r categorïau:
- Defnydd o’r Gymraeg
- Defnydd gweladwy o’r Gymraeg
- Gwobr arbennig
- Gwobr diolch lleol
- Gwobr Croeso i’r ŵyl
Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw dydd Gwener 8 Tachwedd, a chyhoeddir y rhestr fer ddydd Llun 18 Tachwedd, i nodi 100 diwrnod ers Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf.
Bydd y gwobrau’n cael eu cyflwyno mewn seremoni frecwast arbennig yn y Lido ym Mharc Ynysangharad, Pontypridd, lleoliad Maes yr Eisteddfod eleni, fore Iau 5 Rhagfyr.
I gael mwy o wybodaeth ac i enwebu busnes, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Enwebu Busnes 2024Nominate a Business 2024 - Menter Iaith RCT