BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru 2021

Dyma gyfle i entrepreneuriaid cymdeithasol, arweinwyr busnes, cwmnïau cydweithredol gweithgar ac arloeswyr talentog y sector busnes cymdeithasol yng Nghymru wneud cais ar gyfer Gwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru 2021.

Yn ogystal ag ennill gwobr ariannol a rhoi hwb i’ch enw da, gallech roi eich cymuned ar y map ac ysbrydoli Cymru i wneud yn well ym myd busnes.

Mae’r categorïau eleni yn cynnwys:

  • Menter Gymdeithasol y Flwyddyn
  • Y Fenter i’w Gwylio - Cymru
  • Technoleg er Budd: Technoleg mewn Mentrau Cymdeithasol
  • Effaith ar y Gymuned
  • Tîm Menter Gymdeithasol y Flwyddyn
  • 'Prynu’n Gymdeithasol’ – Meithrin y Farchnad

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 2 Gorffennaf 2021. 

I gofrestru’ch diddordeb a derbyn yr holl ffurflenni, diweddariadau, negeseuon atgoffa a gwybodaeth ddefnyddiol i’ch helpu i gwblhau’r broses, ewch i: https://cymru.coop/ceisiadau-am-wobrau-2021/
 

 


 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.