Mae Gwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru yn rhan o brosiect Busnes Cymdeithasol Cymru (BCC) a ariennir gan Lywodraeth Cymru.
Eleni mae yna chwech categori gwobrau i fentrau cymdeithasol ddewis o’u plith, sy’n adlewyrchu’r ffyrdd y mae mentrau cymdeithasol ac entrepreneuriaid cymdeithasol wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’n bywydau yn y 12 mis diwethaf.
Bydd yr holl enillwyr yn mynd ymlaen i gynrychioli Cymru yng Ngwobrau Menter Gymdeithasol y DU ym mis Rhagfyr.
Categorïau:
- Menter Gymdeithasol y Flwyddyn
- Menter Gymdeithasol 'Un i’w Wylio'
- Menter Gymdeithasol sy’n meithrin Amrywiaeth, Cynhwysiant, Tegwch a Chyfiawnder
- Hyrwyddwr Menywod Mentrau Cymdeithasol
- Menter Gymdeithasol yn y Gymuned
- Arloesedd Menter Gymdeithasol y Flwyddyn
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 7fed o Orffennaf 2023.
I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Gwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru 2023 - Cwmpas