BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru 2024

Hands overlapping

Mae Gwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru yn tynnu sylw at dwf a photensial y sector menter gymdeithasol yng Nghymru.

Gyda 6 chategori o wobrau, mae Gwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru eleni yn datgelu straeon eithriadol mentrau ac entrepreneuriaid cymdeithasol sydd nid yn unig wedi goroesi’r storm ond sydd wedi dod i’r amlwg fel ffaglau newid yn y 12 mis diwethaf. Mae’n bryd cymeradwyo’r rhai a feiddiai wneud gwahaniaeth, gan drawsnewid bywydau a chymunedau.

Bydd enillwyr gwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru yn mynd ymlaen i gynrychioli Cymru yng Ngwobrau Social Enterprise UK ym mis Rhagfyr.

Mae Gwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru yn rhan o wasanaeth Busnes Cymdeithasol Cymru ac yn cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru. Fe’i cyflwynir gan gonsortiwm o ddarparwyr sy’n cynnwys Cwmpas, Cymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu Cymru, Cwmnïau Cymdeithasol Cymru, UnLtd a CGGC.

Categoriau:

  • Menter Gymdeithasol y Flwyddyn
  • Un i’w Wylio
  • Menter Gymdeithasol Meithrin Amrywiaeth, Cynhwysiant, Tegwch a Chyfiawnder
  • Menter Gymdeithasol Technoleg y Flwyddyn
  • Menter Gymdeithasol yn y Gymuned
  • Arloesedd y Flwyddyn

Dyddiad cau am ceisiadau yw 5pm ar 16 Gorffennaf 2024, cynhelir y seremoni eleni yn Venue Cymru, Llandudno, ar 1 Hydref 2024.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Gwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru 2024 - Cwmpas


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.