BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwobrau Busnes Cymru 2022

Mae enwebiadau Chambers Wales ar gyfer y De-ddwyrain, y De-orllewin a’r Canolbarth wedi agor ar gyfer Gwobrau Busnes Cymru 2022 hirddisgwyliedig, gan roi’r cyfle i BBaChau ledled y wlad gystadlu am wobrau mwyaf mawreddog Cymru.

Er mwyn creu gwell profiad i gystadleuwyr, mae’r broses enwebu wedi’i symleiddio eleni ac mae modd cystadlu ar ffurf fideo ar gyfer y categorïau amrywiol isod:

  • Busnes digidol y flwyddyn
  • Busnes byd-eang y flwyddyn
  • Busnes gwyrdd y flwyddyn
  • Busnes arloesol y flwyddyn
  • Entrepreneur ifanc y flwyddyn
  • Gwobr Lles yn y gweithle
  • Gwobr Ymrwymiad a Rhagoriaeth Cwsmeriaid
  • Gwobr ymgysylltu â gweithwyr
  • Ymgyrch CSR y byd
  • Gwobr Amrywiaeth a Chynhwysiant 

Bydd y cyfle i gystadlu’n cau ar 1 Ebrill 2022.

Am ragor o wybodaeth, ewch i Wobrau Busnes Cymru 2022 (cw-seswm.com)

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.